Thumbnail
Stoc Carbon Mawndiroedd Cymru
Resource ID
77acfc6e-a465-11ec-a9c5-2aaacbd7728e
Teitl
Stoc Carbon Mawndiroedd Cymru
Dyddiad
Ebrill 4, 2022, canol nos, Publication Date
Crynodeb
Mae cyfres fapiau Mawndiroedd Cymru yn darparu dosbarthiad wedi'i ddiweddaru o Fawndiroedd Cymru (hyd at 2022) yn seiliedig ar ffynonellau tystiolaeth cyfredol. Crëwyd yr haenau data ar grid 50m lle mae presenoldeb a thrwch mawn yn cael eu tynnu o amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer pob cell grid 50m ar draws Cymru. Mae sgôr tystiolaeth mawndir yn diffinio lefel yr hyder ym mhresenoldeb mawn mewn unrhyw gell grid benodol, gyda'r celloedd hynny sy'n sgorio mwy na 2 ar y raddfa hon o 1-10, wedi'u cynnwys ar fap dosbarthiad mawn ‘Mawndiroedd Cymru’. Mae'r set ddata hon yn dangos lefelau'r stoc carbon ar draws ardal Mawndiroedd Cymru. Mae’r holl fawn dwfn wedi'i neilltuo i un o 6 o gyfres pridd mawn. Mae stociau carbon yn cael eu cyfrifo o broffiliau wedi’u safoni o setiau data HORIZON Prifysgol Cranfield. Yna cyfrifwyd y lefelau stoc carbon cymedrig (tunnelli) ym mhob cell o'r stoc carbon i 150cm mewn kg/m2 o'r data proffil safonol a addaswyd yn ôl trwch y mawn yn y proffil ac yna ei luosi â'r arwynebedd mewn m2.  Mae'r map hwn yn dangos y stoc carbon fesul uned ynghyd â chyfanswm y stoc carbon ym mhob polygon. Cyflwynir manylion llawn y ffynonellau data a ddefnyddir i adeiladu'r map hwn yn ogystal â'r methodolegau a ddefnyddir i ddiffinio lefel y dystiolaeth ar gyfer presenoldeb mawn a tharddiad y sgôr tystiolaeth mawn yn ogystal ag amcangyfrifon o drwch mawn (dyfnder), amcangyfrifon stoc carbon ac allyriadau nwyon tŷ gwydr yn adroddiad methodoleg fapio Mawndiroedd Cymru.  
Rhifyn
1
Responsible
sion.peter.williams
Pwynt cyswllt
williams
sion.williams@gov.wales
Pwrpas
Er mwyn targedu a monitro gwaith adfer mawndir yn effeithiol, mae angen gwaelodlin o arwynebedd mawndiroedd. Mae map Stoc Carbon Mawndiroedd Cymru yn cynrychioli casgliad o fynonellau data presennol sydd wedi mapio ardaloedd o fawndir yng Nghymu, a’n amgangyfrif y stoc carbon (stôr).   
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
vector
Cyfyngiadau
Cyfyngiadau Eraill
© Hawlfraint y Goron. Mapio sy'n deillio o ddata priddoedd © Prifysgol Cranfield (NSRI) ac ar gyfer Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi 2022 © Hawlfraint y Goron 2022. Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2022. Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Yn cynnwys data o BGS © UKRI. Cedwir pob hawl.
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Adroddwyd ar y stoc carbon mewn kg/m2, er mwyn cyfrifo cyfanswm y stoc o fewn ardal Mawndiroedd Cymru, lluoswyd hyn ag arwynebedd y gell mewn m2 a'i luosi â 0.001 i drosi'r stoc yn dunelli metrig fesul cell 50m. Deilliwyd y stoc Carbon ar gyfer pob cell 50m gan ddefnyddio amcangyfrif o'r stoc carbon a ddeilliodd o ddata proffil safonol gan ddefnyddio crynodiad carbon a dwysedd swmp o ddata gorwelion Pridd LandIS. Lle’r oedd y stoc carbon wedi’i fesur, yn ystod yr Arolwg Dyfnder a Swmp Dwysedd Mawndiroedd (SPEP 2020-21/06) a ymgymerwyd gan ADAS, rhoddwyd y stoc carbon mesuredig.
Ansawdd y data
Cyflwynir manylion llawn y ffynonellau data a ddefnyddir i adeiladu'r map hwn yn ogystal â'r methodolegau a ddefnyddir i ddiffinio lefel y dystiolaeth ar gyfer presenoldeb mawn a tharddiad y sgôr tystiolaeth mawn yn ogystal ag amcangyfrifon o drwch mawn (dyfnder), amcangyfrifon stoc carbon ac allyriadau nwyon tŷ gwydr yn adroddiad methodoleg fapio Mawndiroedd Cymru. 
Maint
  • x0: 180950.0
  • x1: 352100.03125
  • y0: 176000.0
  • y1: 394350.03125
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
Amgylchedd
Rhanbarthau
Global